Er gwaethaf pob anhawster mae myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth Coleg Llandrillo wedi llwyddo i lansio eu halbwm newydd ar y farchnad fyd-eang yn ystod y cyfnod clo a hefyd wedi cyrraedd rhif 1 yn siart iTunes!
Mae cyfuniad o unigolion penderfynol a thalent pur wedi arwain at greu albwm newydd 'Unmute' sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn siartiau canwr-gyfansoddwr iTunes gan drechu cystadleuaeth gan enwogion megis Barry Gibb, Eva Cassidy, Carole King, Paul Simon a Tracy Chapman i gyrraedd y brig!
Mae hyn yn dipyn o gamp o gofio bod y myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth wedi gorfod ynysu oddi wrth ei gilydd wrth geisio recordio, cymysgu, golygu a chynhyrchu eu traciau yn eu cartrefi am yr ail flwyddyn yn olynol. Dywedodd un o'r myfyrwyr: "Doedden ni ddim am gael ein curo gan y pandemig!"
Pob blwyddyn mae'r myfyrwyr yn cael cyfle i gynhyrchu albwm o ganeuon gwreiddiol. Mae albymau blaenorol a grëwyd gan fyfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo yn cynnwys "Mind Palace" a "Pink Noise". Llwyddodd yr albymau hynny i gyrraedd uchelfannau'r siartiau cerddoriaeth hefyd.
Dros gyfnod o chwe mis cyfrannodd 12 o fyfyrwyr at greu'r albwm newydd, ac mae chwech ohonynt yn ymddangos fel artistiaid. Mae'r albwm yn gymysgedd eclectig o draciau yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol o genres amrywiol yn cynnwys gwerin, acwstig, indi, canwr/gyfansoddwr, electronig, dawns, tŷ ac EDM.
Cafodd nifer o draciau'r albwm lwyddiant yn siart y senglau hefyd. Llwyddodd dwy o ganeuon Max Anglesea o Hen Golwyn i gyrraedd y 100 uchaf yn cynnwys 'Sail Away With Me', a gyrhaeddodd rif 13. Ar y diwrnod rhyddhau penderfynodd Max y byddai'n ffrydio'n fyw ar Facebook a llwyddodd i gyrraedd dros 400 o bobl.
Cafodd Korey Randall o'r Rhyl a Noah Spree o Landudno lwyddiant gyda dwy gân a gyrhaeddodd y 100 uchaf yn cynnwys 'Make me a Liar' a gyrhaeddodd rif 21.
Profodd Toby Corbett o Ddinbych lwyddiant hefyd gyda'i gân a gyrhaeddodd y 100 uchaf yn y siart canwr/gyfansoddwr.
Dywedodd un o fyfyrwyr y dosbarth nad oedd yn rhan o greu'r albwm, Seren Bartley o Henllan:
"Mae'r albwm yma wedi gwneud argraff fawr arnaf. Dw i wedi bod yn gweld a chlywed fy nghyd-fyfyrwyr yn gweithio ar eu caneuon ers wythnosau a dw i'n edrych ymlaen yn arw i'r byd glywed y caneuon anhygoel hyn. Mae'r albwm mor amrywiol ac yn dangos steil unigryw pawb. Dw i wirioneddol wrth fy modd gyda phob trac a dw i'n gwybod y byddwch chi hefyd!"
Dywedodd myfyriwr arall, Molly Stubbs-Davies o Ddeganwy - a oedd y tu ôl i waith celf yr albwm:
"Er ein bod ni wedi bod yn gweithio ar yr albwm hwn ers misoedd bellach, mae'r mis diwethaf hwn wedi bod yn arbennig o brysur i bawb. Mae pawb ohonom wedi gweithio'n galed i greu rhywbeth rydym yn falch ohono er gwaethaf yr anawsterau eleni. Dw i'n teimlo fy mod i'n siarad ar ran pawb sy'n rhan o'r prosiect hwn pan dw i'n dweud ein bod ni wedi llwyddo. Diolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o wneud yr albwm hwn."
Dywedodd Jon Crowther, Arweinydd Rhaglen - Lefel 3 Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu:
"Mae'r myfyrwyr wedi bod yn frwdfrydig iawn drwy gydol y broses o greu'r albwm hwn. Dyma brif lwyddiant y cwrs gan ychwanegu at yr hyn a brofwyd y llynedd. Y myfyrwyr sydd wedi bod y tu ôl i'r gwaith o hyrwyddo'r albwm, ac maen nhw wir yn haeddu'r llwyddiant ysgubol hwn."
Dyma ddolen i'r holl lefydd lle gellir cael gafael ar yr albwm: https://linktr.ee/gllmmusic
Mae tri choleg Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi eu bod yn derbyn ceisiadau ar gyfer tymor newydd mis Medi 2021.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk/music neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.